Tylino'r corff, lleddfu'r ysbryd

Croeso i Therapïau Soma Vita. Rydym yn darparu therapi tylino o safon uchel sydd wedi'i bersonoli i gynnal eich iechyd a lles. Mae ein hystafelloedd triniaeth wedi'u cynllunio i ymlacio ac adnewyddu eich synhwyrau. Mae aroglau deniadol a seiniau lleddfol yn llenwi'r aer ac yn adlewyrchu'r olygfa dros y coetir y tu allan. Yn dilyn eich triniaeth, gallwch gymryd saib i fwynhau ein hamgylchedd. Gwnwawn ein gorau glas i sicrhau y byddwch yn ein gadael wedi ymlacio ac adfywio ac yn barod i wynebu'r byd unwaith eto.

NEWYDD - MLD UWCH YN DILYN LLAWDRINIAETH

Mae Draeniad Lymffatig â Llaw (MLD) yn Dilyn Llawdriniaeth yn dechneg arbenigol sydd yn hybu gwellhad iachus. Mae'n effeithiol iawn wrth leihau cymhlethdodau fel seromau, ffibrosis a heintiau.

Mae MLD yn DIlyn Llawdriniaeth yn wahanol i MLD ar gyfer Lles ac mae angen dealltwriaeth uwch o'r gweithredoedd llawfeddygol a phrosesau gwella cymhleth y corff.

Wrth chwilio am gynhaliaeth parthed MLD yn dilyn llawdriniaeth, mae'n hanfodol bod gan eich therapydd yr hyfforddiant cywir yn y maes arbenigol hwn.

Mae gan ein Prif Therapydd, Adele Oddy hyfforddiant uwch mewn MLD yn Dilyn Llawdriniaeth a dealltwriaeth ddofn o lawdriniaethau, dillad a therapi cywasgu, mewniadau ewyn a gofal cleifion. Rydym yn darparu gwasanaeth proffesiynol, chymwysedig ac yswiredig i hybu eich gwellhad ac i leihau cymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth.

Cardiau Rhodd Electronig Soma VIta

Gall cardiau rhodd eu hanfon gyda neges ar y diwrnod o'ch dewis.  Mae amryw o arddulliau ac achlysuron gallwch ddewis ohonynt, yn y ddwy iaith.

Triniaethau

Wedi'u teilwra i gyrraedd eich anghenion unigol, mae ein triniaethau yn cynnig yr eithaf mewn ymlacio ac adnewyddiad, i fwydo corff a meddwl.

Tylino

Tylino i ryddhau tyndra cyhyrol, lleddfu poen, cynnal gwellhad a hybu ymlaciad dwfn.

Draeniad Lymffatig â Llaw

Draeniad Lymffatig â Llaw (MLD) ar gyfer Lles ac MLD Uwch yn Dilyn Llawdriniaeth.

Wynebweithiau

Perfformiwyd gan Therapydd MLD Uwch gan ddefnyddio technegau arbenigol a chynnyrch wedi'u profi'n glinigol, mae ein hwynebweithiau yn darparu canlyniadau eithriadol ac ymlaciad dwfn.

scar on patient's back

Therapi Creithiau

Therapi tylino i wella golwg, gwedd a sensitifrwydd creithiau, gan hefyd leihau poen.

Ein Hadolygiadau

Ychwanegwch adolygiad Google eich hun i Soma Vita

en_GBEnglish