Image Alt

Adele

Shw mae. Fy enw yw Adele Oddy ac rwyf yn therapydd tylino yn gweithio o fy mhractis ym Mhont-y-clun, De Cymru. Ar ôl gweithio mewn ymchwil iechyd gyda'r GIG ac elysennau canser am bum mlynedd ar hugain, rwyf yn deall yr effaith negatif gall tyndra gael ar y corff a phwysigrwydd lles a hunanofal. Yr hyn sydd yn rhoi boddhad mawr i mi yw gallu helpu fy nghleientiaid gyda'u problemau corfforol, ond hefyd eu bod yn gadael fy stafelloedd trin wedi ymlacio'n llwyr.

Rwyf yn cynnig triniaeth wedi'u personoli, wedi'u teilwra i gwrdd ag anghenion y cleient. I'r perwyl hwn, mae'n bwysig i wario ychydig o amser gyda phob cleient newydd cyn dechrau triniaethau, i drafod gyflyrau cyfredol ac i gytuno ar yr hyn sydd angen o sesiwn.

Rwyf yn edrych ymlaen i'ch croesawu i'n practis hyfryd. I adeiladu ar y budd a gewch o'ch triniaeth, gallwch ymlacio yn ein lolfa, cael diod a gwrando i gerddoriaeth leddfol ac edrych allan dros y coetir.

Anfonwch Anrheg

Ydych chi'n edrych am anrheg ar gyfer y person arbennig yn eich bywyd? Prynwch un o'n cardiau rhodd electronig. Caiff ei anfon ar ddyddiad o'ch dewis. Mae gennym lawer o themau ac achlysuron ac maent ar gael yn y Gymraeg a Saesneg.

en_GBEnglish