Image Alt

Wynebweithiau

Wynebwaith Anhygoel Soma Vita

Mae ein Hwynebwaith Anhygoel yn defnyddio technegau tylino wynebwaith arbenigol a chynhyrchion Temple Spa (sydd wedi'u profi'n glinigol) i adael eich croen wedi'i lanhau'n ddwfn, yn fwy trwchus, wedi'i hydradu ac yn llyfn fel sidan.
Bydd eich wynebwaith yn dechrau gyda glanhad dwfn a gosod Most Revealing Glowing Skin Oxygen Peel gan Temple Spa. Bydd "oxygenating bubble peel" yn gadael eich wyben yn disgleirio. Caiff y driniaeth ei phweru gan gymysgedd o fitamin C, asidau glycolig, malig, lactig, citrig a hydrosci, i gario celloedd croen marw a gweddillion i ffwrdd.
Bydd Draeniad Lymffatig gan Law (MLD) ymlaciol yna'n cael ei berfformio i leihau llefydd chwyddog ac i dynnu gwastraff dwfn. Bydd technegau Rhyddhad Myoffasgau (MFR) yn gwella ffyrfder cyhyrau, tra bydd Adweitheg Wynebwaith yn cyfnerthu llif gwaed ac annog ymlaciad dwfn. Caiff y tylino ei berfformio gyda balm aromatherapi lleddfol.
Daw eich wynebwaith i ben gyda maldod go iawn - gosod mwgwd Trufflesque gan Temple Spa, gan ddefnyddio Hydra-Plump complex™ sy'n cynnwys trwffl haf du, aur, peptidau sidan, echdynion planhigion a choctêl o ffrwythau ac asidau amino i godi, hydradu a llyfnhau.
Mae'r wynebwaith yn cynnwys tylino ymaciol llaw & braich neu troed.

Pris

Wynebwaith Anhygoel Soma Vita (75 mun): £85

Anfonwch Anrheg

Ydych chi'n edrych am anrheg ar gyfer y person arbennig yn eich bywyd? Prynwch un o'n cardiau rhodd electronig. Caiff ei anfon ar ddyddiad o'ch dewis. Mae gennym lawer o themau ac achlysuron ac maent ar gael yn y Gymraeg a Saesneg.

en_GBEnglish