
Tylino Nodweddiadol Soma Vita
Triniaeth 60 munud yw'r Tylino Nodweddiadol Soma Vita, wedi'i ffocysu ar eich anghenion unigol. Mae'r tylino hwn wedi'i gynllunio i gynnig rhyddhad penodol gan ddefnyddio cymysgedd o dechnegau sydd wedi'u hadnabod i fod y rhai mwyaf effeithiol wrth leihau poen a hybu ymlaciad. Yn dilyn trafodaeth fer, tynnwn ar dechnegau Tylino Swedaidd, Meinwe Ddofn, Pwynt Triger, Rhyddhad Myoffasgau a gwasgbwyntiau i dargedu ardaloedd penodol ac i greu sesiwn ymlaciad dwfn.
Pris
Tylino Nodweddiadol Soma Vita (60 mun): £55 |

Tylino Swedaidd
Mae tylino Swedaidd, a gaiff ei alw'n dylino clasurol, yn hybu ymlacio gan ryddhau tensiwn yn y cyhyrau. Yn ystod eich sesiwn, bydd y therapydd yn tylino gan ddefnyddio strociau hir, a symudiadau cylchog dwfn i'ch ymlacio, i symbylu terfynau'ch nerfau ac i gynyddu llif gwaed.
Prisiau
Gwddf, Cefn ac Ysgwyddau (30 mun): £35 | |
Corff Cyfan (60 mun): £50 | |
Corff Cyfan gyda Thraed ac Wyneb (90 mun): £70 |

Tylino Meinwe Ddofn
Mae Tylino Meinwe Ddofn (TMDd) yn ffocysu ar ryddhau clymau mewn cyhyrau er mwyn lleihau poen a llid. Mae TMDd hefyd yn gallu lleihau tyndra, gan leihau lefelau cortisol a chynyddu lefelau ocsitosin, hormon sydd ag effeithiau ymlacio. Cyn dechrau eich tylino, bydd eich therapydd yn trafod pa ardaloedd i'w gweithio arnynt.
Pris
Tylino Meinwe Ddofn (60 mun): £55 |

Tylino Pen Indiaidd
Mae Tylino Pen Indiaidd yn driniaeth ymlaciol dwys ac yn gweithio ar ardaloedd wedi'u heffeithio gan straen emosiynol a meddyliol. Gan ddefnyddio cyfuniad o dylino cylchol a gwasgbwyntiau, mae'n rhyddhau anghysur a straen yn y cyhyrau, yn ogystal â hybu ymlacio. Mae'r driniaeth yn dechrau gyda tylino dwfn i feinwe'r cefn uchaf, ac yna ymlaen i'r gwddf, breichiau, wyneb a phen. Gall y driniaeth rhyddhau sinwsitis, straen a gwella cwsg. Mae rhai yn ei weld yn helpu i reoli pennau tost (hyd yn oed meigryn), straen llygaid a phryder.
Pris
Tylino Pen Indiaidd (45 mun): £38 |

Beichiogrwydd
Mae tylino yn rhyddhau llawer o'r anghysuron a brofwyd yn ystod beichiogrwydd, fel poen cefn, gwddf anystwyth a chrampiau coesau. Mae hefyd yn hynod ymlaciol ac yn cynnig amser hunanofal hollbwysig i ddarpar mamau. Yn addas i ferched beichiog ar ôl y trimester cyntaf.
Pris
Tylino Merched Beichiog (60 mun): £55 |

Tylino Oncoleg
Gall y tyndra a'r pryder sy'n deillio o driniaeth ganser roi'r system nerfol y corff ar rybudd uchel. Mae tylino oncoleg yn defnyddio cyffyrddiad ysgafn a symudiadau araf i weithio gyda'r system nerfol i hybu ymlaciad a gwellhad. Mae gwaith ymchwil yn dangos sawl budd, gan gynnwys llai o arosiadau ysbyty, gwell cwsg, llai o bennau tost a llai o ddiffrwythder a chyfog o gemotherapi. Mae cleientiaid yn aml yn teimlo'n well o ran eu hwyliau a'u gallu i ymdopi. Bydd ein therapydd ardystiedig yn trafod unrhyw dyfeisiau meddygol (e.e. llinell Hickman neu PICC), unrhyw gonsern ac ardaloedd i'w ffocysu arnynt cyn i'ch triniaeth gychwyn.
Prisiau
Tylino Oncoleg Soma Vita (60 mun): £55 | |
Tylino Oncoleg Soma Vita (30 mun): £38 |

Tylino Aromatherapi
Tylino Aromatherapi gydag olewau anhepgor cymysgu ymlaen llaw.
Mae tylino aromatherapi yn defnyddio technegau cyffyrddiad-ysgafn, sydd wedi'u seilio ar dylino Swedaidd, gydag olewau anhepgor (olewau planhigion â chrynodiad uchel). Yn ystod sesiwn aromatherapi, byddwch yn anadlu'r moleciwlau olew anhepgor i fewn neu eu hamsugno trwy'r croen. Tybiwyd eu bod yn achosi newidiadau llesol i'ch meddwl a chorff gan effeithio'r system limbig - ardal o'r ymennydd sydd yn ymwneud ag emosiwn. Dewisiwch o:
Ailgydbwyso: Bydd Bergamot, Lafant, Petitgrain, Rhosmari ac Oren Melys yn eich setlo ac yn adfer eich cydbwysedd yn ystod cyfnodau o straen emosiynol.
Ymlacio: Bydd Saets Clary, Thus, Bergamot a Rhosmari Maroc yn rhyddhau tyndra, ysgogi'r cylchrediad ac ailfywhau, tra bod Camelia'n adfywio a'n lleddfu.
Egnioli: Ysgogwch eich meddwl a'ch corff gyda Theim a Bergamot i oresgyn blinder, a Lafant i dawelu tyndra ac i gydbwyso'r system nerfol.
Prisiau
Aromatherapi: Gwddf, Cefn ac Ysgwyddau (30 mun): £38 | |
Aromatherapi: Corff Cyfan (60 mun): £55 |

Therapi Cerrig Poeth
Tylino maldodus yw Therapi Cerrig Poeth, lle caiff cerrig basalt folcanig naturiol eu defnyddio fel estyniad i ddwylo'r therapydd i roi ymlaciad dwfn. Mae'r therapi yn helpu rhyddhau tensiwn yn y cyhyrau, lleihau tyndra a gorbryder, a hybu cwsg. Mae astudiaethau wedi dangos y gall rhyddhau symptomau clefydau awtoimiwnaidd fel ffibromyalgia ac arthritis rhiwmatoid.
Prisiau
Therapi Cerrig Poeth (40 mun): £38 | |
Therapi Cerrig Poeth (60 mun): £55 |

Tylino Troed Tai
Cafodd tylino traed Tai (neu Adweitheg Tai) ei ddatblygu dros ganrifoedd a chaiff ei ddisgrifio mewn dogfennau dwyreiniol hynafol. Rydym yn dechrau gyda thylino dwfn i'ch ymlacio a'ch bywiogi. Mae ychydig o'r tylino yn defnyddio offer pren Tai traddodiadol i symbylu'r pwyntiau "acupressure". Yna bydd olew aromatig yn cael ei dylino i'ch traed a gwaelod y coesau cyn eu lapio mewn mwslin a'u gorchuddio mewn tywelion twym i gwblhau'r driniaeth adnewyddol hon.
Pris
Tylino Troed Tai (50 mun): £45 |

Sesiwn Rhyddhad Myoffasgau
Mae rhwydwaith ffasgol yn cwmpasu, cynnal a helpu diffinio pob cyhyr, asgwrn, organ, pibell waed a nerf. Mae ffasgau yn cyfangu oherwydd osgo arferol (e.e. eistedd wrth ddesg) neu gall dynhau neu adlynu yn dilyn llawdriniaeth. Pwrpas y therapi yw i ymestyn a rhyddhau'r ffasgau i'w galluogi nhw ac adeileddau gerllaw i symud yn haws ac i adfer symudiad yn gyffredinol. Am y rheswm hon, caiff therapi myoffasgau ei alw'n therapi 'rhyddhad myoffasgau'.
Mae technegau rhyddhad myoffasgau yn dyner, diogel ac yn effeithiol iawn wrth leihau poen ac adfer symudiad, cytbwysedd adeileddol ac i optimeiddio swyddogaethau.
Pris
Sesiwn Rhyddhad Myoffasgau (60 mun): £55 |

Therapi Ffibromyalgia
Gall therapi tylino leddfu'n ddwfn a gall fod yn fuddiol i'r rheiny sy'n dioddef o ffibromyalgia. Gan ddefnyddio strociau ysgafn, ymestyn tyner a gwres, gall ein therapi tylino rhyddhau poen yn y cyhyrau, lleihau lefelau hormonau straen a chynyddu lefelau serotonin. Daw teimlad o les cyffredinol gyda'r buddion hyn, sy'n ymlacio'r corff ac sydd yn hybu cwsg gwell. Gwnawn weithio gyda chi i deilwra'r driniaeth i ddarparu rhyddhad o'r cyflwr poenus hwn.
Pris
Tylino Ffibromyalgia (50 mun): £45 |
Anfonwch Anrheg
Ydych chi'n edrych am anrheg ar gyfer y person arbennig yn eich bywyd? Prynwch un o'n cardiau rhodd electronig. Caiff ei anfon ar ddyddiad o'ch dewis. Mae gennym lawer o themau ac achlysuron ac maent ar gael yn y Gymraeg a Saesneg.