
Tylino Swedaidd
Mae tylino Swedaidd, a gaiff ei alw'n dylino clasurol, yn hybu ymlacio gan ryddhau tensiwn yn y cyhyrau. Yn ystod eich sesiwn, bydd y therapydd yn tylino gan ddefnyddio strociau hir, a symudiadau cylchog dwfn i'ch ymlacio, i symbylu terfynau'ch nerfau ac i gynyddu llif gwaed.
Prisiau
Gwddf, Cefn ac Ysgwyddau (30 mun): £35 | |
Corff Cyfan (60 mun): £50 | |
Corff Cyfan gyda Thraed ac Wyneb (90 mun): £70 |

Tylino Aromatherapi
Tylino Aromatherapi gydag olewau anhepgor cymysgu ymlaen llaw.
Mae tylino aromatherapi yn defnyddio technegau cyffyrddiad-ysgafn, sydd wedi'u seilio ar dylino Swedaidd, gydag olewau anhepgor (olewau planhigion â chrynodiad uchel). Yn ystod sesiwn aromatherapi, byddwch yn anadlu'r moleciwlau olew anhepgor i fewn neu eu hamsugno trwy'r croen. Tybiwyd eu bod yn achosi newidiadau llesol i'ch meddwl a chorff gan effeithio'r system limbig - ardal o'r ymennydd sydd yn ymwneud ag emosiwn. Dewisiwch o:
Ailgydbwyso: Bydd Bergamot, Lafant, Petitgrain, Rhosmari ac Oren Melys yn eich setlo ac yn adfer eich cydbwysedd yn ystod cyfnodau o straen emosiynol.
Ymlacio: Bydd Saets Clary, Thus, Bergamot a Rhosmari Maroc yn rhyddhau tyndra, ysgogi'r cylchrediad ac ailfywhau, tra bod Camelia'n adfywio a'n lleddfu.
Egnioli: Ysgogwch eich meddwl a'ch corff gyda Theim a Bergamot i oresgyn blinder, a Lafant i dawelu tyndra ac i gydbwyso'r system nerfol.
Prisiau
Aromatherapi: Gwddf, Cefn ac Ysgwyddau (30 mun): £38 | |
Aromatherapi: Corff Cyfan (60 mun): £55 |

Tylino Pen Indiaidd
Mae Tylino Pen Indiaidd yn driniaeth ymlaciol dwys ac yn gweithio ar ardaloedd wedi'u heffeithio gan straen emosiynol a meddyliol. Gan ddefnyddio cyfuniad o dylino cylchol a gwasgbwyntiau, mae'n rhyddhau anghysur a straen yn y cyhyrau, yn ogystal â hybu ymlacio. Mae'r driniaeth yn dechrau gyda tylino dwfn i feinwe'r cefn uchaf, ac yna ymlaen i'r gwddf, breichiau, wyneb a phen. Gall y driniaeth rhyddhau sinwsitis, straen a gwella cwsg. Mae rhai yn ei weld yn helpu i reoli pennau tost (hyd yn oed meigryn), straen llygaid a phryder.
Pris
Tylino Pen Indiaidd (45 mun): £38 |

Therapi Cerrig Poeth
Tylino maldodus yw Therapi Cerrig Poeth, lle caiff cerrig basalt folcanig naturiol eu defnyddio fel estyniad i ddwylo'r therapydd i roi ymlaciad dwfn. Mae'r therapi yn helpu rhyddhau tensiwn yn y cyhyrau, lleihau tyndra a gorbryder, a hybu cwsg. Mae astudiaethau wedi dangos y gall rhyddhau symptomau clefydau awtoimiwnaidd fel ffibromyalgia ac arthritis rhiwmatoid.
Prisiau
Therapi Cerrig Poeth (40 mun): £38 | |
Therapi Cerrig Poeth (60 mun): £55 |

Tylino Troed Tai
Cafodd tylino traed Tai (neu Adweitheg Tai) ei ddatblygu dros ganrifoedd a chaiff ei ddisgrifio mewn dogfennau dwyreiniol hynafol. Rydym yn dechrau gyda thylino dwfn i'ch ymlacio a'ch bywiogi. Mae ychydig o'r tylino yn defnyddio offer pren Tai traddodiadol i symbylu'r pwyntiau "acupressure". Yna bydd olew aromatig yn cael ei dylino i'ch traed a gwaelod y coesau cyn eu lapio mewn mwslin a'u gorchuddio mewn tywelion twym i gwblhau'r driniaeth adnewyddol hon.
Pris
Tylino Troed Tai (50 mun): £45 |
Os ydych chi'n edrych am rhywbeth ychydig yn fwy arbennig, gadewch i ni eich maldodi gyda Phrofiad Encilfa Sba Soma Vita.
Fel arall, os hoffech chi brofiad tylino dyfnach, gwiriwch ein hystod o Therapeutic massages.
Rydym hefyd yn cynnig tylino sy'n fwy arbenigol, gan gynnwys, tylino am Ffibromyalgia, therapi ScarWork™ am driniaeth creithiau a thylino Oncoleg Jennifer Young.