Image Alt

Dyddiau Encilfa Sba

Ein Dyddiau Encilfa Sba Moethus

Oes digwyddiad i'w ddathlu gyda'ch gilydd, neu ydych chi am ddianc o dyndra a straen bywyd pob dydd? Gadewch eich gofidion ar ôl a gadael i ni eich maldodi gyda Phrofiad Encilfa Sba Soma Vita.

Treatment room at Soma Vita
Squirrel Lodge at Soma Vita

Bydd eich dydd yn dechrau unwaith i chi newid i'ch gŵn gwyn gwlanog a sliperi yn ein hystafell ymlacio. Cewch yr unig ddefnydd i'r ystafell hon - sy'n edrych allan ar yr ardd - trwy gydol eich cyfnod gyda ni. Yn dilyn wydriad o ffis a melysion, gallwch drochi eich traed mewn baddon twym ag olewau anhepgor sy'n lleddfu. Os ydyw hi'n oer tu allan, gallwch gwtsho lan gyda'n poteli dŵr poeth a blanced, wrth i chi eistedd yn ôl a mwynhau'r swigod, aroglau gorffwysol a cherddoriaeth. Mae ein hystafelloedd yn edrych allan dros Goedwig Ifor, a bydd ein twb poeth, pwll tân, a'n caban, 'Llety'r Wiwer' - sydd â gwres a golygfa i'r coed - at eich defnydd trwy'r dydd.

Bydd eich amser gyda ni yn cynnwys triniaeth 60 munud moethus gyda'n prif therapydd.

Dewiswch o:

  • Tylino Aromatherapi Lleddfu Corff Cyfan
  • Tylino Indiaidd ymlacio dwfn Pen, Gwddf ac Ysgwyddau
  • Defod bywiogus ac ymlaciol Traed Tai
  • Triniaeth Wyneb Temple Spa neu Weleda Total Spa gyda thylino pen neu goes/troed.
swedish massage
Lunch at Soma Vita
Fire Pit at Soma Vita
Ivor Woods

Caiff cinio ei gynnwys a'i weini yn ein hystafell ymlacio. Mae'n gasgliad blasus o frechdanau ffres, saladau, dipiau a melysfwyd (fel arfer browni siocled bendigedig!). Gwnawn ein gorau glas i sicrhau rydych yn ein gadael wedi ymlacio'n llwyr, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac yn barod i wynebu'r byd unwaith eto.

Galwch (07813 986 797) neu ebostiwch ni (info@somavita.co.uk) i fwcio'ch dydd.

Byddwn yn hapus i drafod unrhyw anghenion neu gynlluniau arbennig.

Encilfa Dydd Lles (hyd at 4 person)

  • Gŵn, Sliperi & Thywel
  • Ffis a melysion wrth gyrraedd
  • Defnydd unig o'n hystafell ymlacio
  • Llety'r Wiwer & Pwll Tân
  • Triniaeth 60 munud yr un
  • Cinio
  • Diodydd diderfyn

£95  y person   Yn Ystod y Dydd, Llun – Sul

Encilfa Profiad Cyfnos i Ddau

  • Gŵn, Sliperi & Thywel
  • Defnydd unig o'n hystafell ymlacio
  • Llety'r Wiwer & Pwll Tân
  • Triniaeth 60 munud yr un
  • Diodydd diderfyn

£75 y person Cyfnosau, Llun - Iau

CARDIAU RHODD

Mae cardiau rhodd electronig, a gânt eu danfon gan e-bost, yn ffordd wych i faldodi rhywun i Dydd Encilfa Sba. I ddefnyddio cerdyn rhodd ar gyfer Diwrnod Sba, dyfynnwch y rhif i ni wrth fwcio. Gallwch ddewis opsiynau yn y Gymraeg neu'n Saesneg a'r swm y hoffech lwytho. Ewch i'n cardiau yma.

en_GBEnglish