
Tylino Meinwe Ddofn
Mae Tylino Meinwe Ddofn (TMDd) yn ffocysu ar ryddhau clymau mewn cyhyrau er mwyn lleihau poen a llid. Mae TMDd hefyd yn gallu lleihau tyndra, gan leihau lefelau cortisol a chynyddu lefelau ocsitosin, hormon sydd ag effeithiau ymlacio. Cyn dechrau eich tylino, bydd eich therapydd yn trafod pa ardaloedd i'w gweithio arnynt. Mae tylino TMDd yn para am 60 neu 90 munud.
Pris
Tylino Meinwe Ddofn (60 mun): £55 |

Sesiwn Rhyddhad Myoffasgau
Mae rhwydwaith ffasgol yn cwmpasu, cynnal a helpu diffinio pob cyhyr, asgwrn, organ, pibell waed a nerf. Mae ffasgau yn cyfangu oherwydd osgo arferol (e.e. eistedd wrth ddesg) neu gall dynhau neu adlynu yn dilyn llawdriniaeth. Pwrpas y therapi yw i ymestyn a rhyddhau'r ffasgau i'w galluogi nhw ac adeileddau gerllaw i symud yn haws ac i adfer symudiad yn gyffredinol. Am y rheswm hon, caiff therapi myoffasgau ei alw'n therapi 'rhyddhad myoffasgau'.
Mae technegau rhyddhad myoffasgau yn dyner, diogel ac yn effeithiol iawn wrth leihau poen ac adfer symudiad, cytbwysedd adeileddol ac i optimeiddio swyddogaethau.
Pris
Sesiwn Rhyddhad Myoffasgau (60 mun): £55 |

Draeniad Lymffatig gan Law
Mae Draeniad Lymffatig gan Law (DLL) yn therapi uwch sydd yn defnyddio technegau pwmpio rhythmig i ysgogi gwaredu gormodedd hylif o feinwe'r corff. Caiff ei argymell gan glinigwyr wrth baratoi ar gyfer llawdriniaeth, ac hefyd i gynorthwyo gwellhad yn dilyn llawdriniaeth. Gall DLL hefyd gwella golwg y croen gan ysgogi llif gwaed, sydd yn danfon maetholion hanfodol ac ocsigen. Mae hefyd yn helpu gyda gwaredu cynhyrchion gwastraff, sydd yn arwain at bryd mwy clir.
Pris
Draeniad Lymffatig â Llaw ar gyfer Lles (60 mun): £65 |